Un Bywyd O Blith Nifer

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781843237099

Dyddiad Cyhoeddi: 2006

Ffurf: Clawr Caled

Nifer o Dudalennau 402

Teitl ar gael ar ffurf:

£19.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

'Ni feddyliais erioed, ac ni feddyliaf yn awr fod defnyddiau cyfanwaith yn fy mywyd gwibiol i.' Chwarter canrif wedi'r datganiad nodweddiadol ysgubol hwnnw gan Saunders Lewis yn 1980, dyma wrthbrofi'n ddisglair a chroyw eiriau'r 'gŵr sydd ar y gorwel', chwedl Gerallt Lloyd Owen.

Roedd Saunders Lewis, un o Gymry mwyaf enigmatig a dadleuol yr ugeinfed ganrif, yn sypyn o wrthosodiadau: y milwr dewr a arweiniai blaid o heddychwyr; y bonheddwr diwreiddiau a ysgogodd werin wladgarol; y Pabydd tanbaid ymhlith Anghydffurfwyr cynyddol lugoer; y llenor a'r dramodydd a gyfaddefai nad oedd yn berchen ar dafodiaith ac na chredai fod cynulleidfa ar gyfer ei ddramâu. Ac eto, daeth y dieithryn hwn yn eicon Cymreig, a'i enw'n gyfystyr ag ymrafael ac eithafiaeth, ag aberth ac arwriaeth.

Adeg marw Lewis yn 1985 ysgrifennodd Rheinallt Llwyd yng nghylchgrawn Llais Llyfrau:'Gorau po gyntaf....y cawn ni astudiaeth lawn a chytbwys o'i waith. Hynny'n unig fyddai'n deyrnged addas iddo.' Bellach, telir y deyrnged honno yn y cofiant meistraidd hwn gan brif gofiannydd Cymru, T.Robin Chapman.