Straeon O'r Strade

STRAEON O'R STRADE

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781843234142

Dyddiad Cyhoeddi: 2004

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 200

Teitl ar gael ar ffurf:

£9.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Y Strade - cartre'r Sgarlets ac aelwyd y sosban ers dros gan mlynedd. Oes, mae 'na hanes a hanesion difyr yn ymwneud â Chlwb Rygbi Llanelli.

Ar yr aelwyd hon y magwyd nifer o gewri'r gêm yng Nghymru - Albert Jenkins a Lewis Jones, Carwyn a Phil Bennett, a'r Quinnells - i enwi ond rhai o'r hoelion wyth sy'n cael sylw yma. Bu'r Strade'n Fecca i filoedd o gefnogwyr brwd a ffraeth mewn sawl cenhedlaeth ac mae yma ambell stori dda amdanyn nhw! Bu'r clwb, hefyd, yn rhan o rai o'r gornestau mwyaf cyffrous a welwyd erioed ar gae rygbi. Mae'n werth ail-fyw'r fuddugoliaeth anfarwol honno yn erbyn y Crysau Duon yn 1972. Ond beth am Northampton a Biarritz yn y blynyddoedd diweddar? Pleser fel procio'r ddannoedd!

Pytiau byrion sydd yma, pob hanesyn wedi ei roi mewn cyd-destun cyfoes - ac annisgwyl, weithiau - a phob un yn stori gyfan ynddi ei hun. Trwy gyfrwng y cameos hyn fe ddown i nabod y clwb a'r gymuned sy'n ei gynnal.