Carreg Wrth Garreg
- About the book
- Book Reviews
Details
Ond ceisio byw sydd raid i deulu Bristol House Edward Ellis, yr hen siopwr sydd hefyd yn flaenor yng Nghapel Jerusalem ai ferch Grace, a orfodwyd i adael yr ysgol i ofalu am y siop pan fu farw ei mam; ei brawd Daniel, sydd bellach yn weinidog y Capel Mawr ym Mlaenau Ffestiniog, ai wraig Laura.
Ymdrechu i ddal ati hefyd wna Elen Evans, a adawyd yn weddw wedi i'w gŵr fethu dal pwysau'r streic, ai theulu hithau yn Llwybrmain ei meibion Tom ac Ifan: yr hynaf wedi torri'r streic er mwyn ei fam ai frawd, a'r ieuengaf yn wrthwynebydd cydwybodol a gefnodd ar ei gartref erbyn hyn.
Mae'r nofel hon yn ailymweld â bywydau'r cymeriadau hynny a wnaeth y fath argraff yn Rhannu'r Tŷ (2003) ac yn Streic: Dyddiadur Ifan (2004)