Waldo Williams: Cerddi 1922 - 1970

Language: Cymraeg

ISBN: 9781848518155

Current Publication Date: 2014

gol. Alan Llwyd a Robert Rhys

Format: Clawr Caled

Number of Pages: 712

Title available as:

£25.00
  1. About the book
  2. Book Reviews

Details

Dyma’r ymgais gyntaf i gyhoeddi holl gerddi Waldo Williams mewn un gyfrol, ei gerddi adnabyddus yn ogystal â’i gerddi anadnabyddus, a llawer o’r rheini’n ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf y gyfrol hon – 344 o gerddi i gyd. Mae’r cerddi wedi eu gosod yn ofalus mewn adrannau, o gerddi cynharaf Waldo hyd at ei gerddi olaf un, a luniwyd ar ôl iddo gyhoeddi ei gyfrol fawr, Dail Pren, ym 1956. Ceir yma hefyd ragymadrodd cryno gan Robert Rhys, a thros ddau gant o dudalennau o nodiadau eglurhaol a defnyddiol ar y cerddi. Fel y dywed Robert Rhys yn ei Ragymadrodd: ‘Mae’r casgliad yn un hynod’.  Dyma gyfrol i’w thrysori, yn sicr.

 

Mae Robert Rhys yn Ddarllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn Academi Hywel Teifi yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac Alan Llwyd yn Athro Ymchwil yn yr un adran.  Ffrwyth cydweithio rhwng dau aelod o staff Academi Hywel Teifi yw’r casgliad hwn o holl gerddi Waldo Williams felly. Yn ogystal, y mae Alan Llwyd newydd gyhoeddi cofiant i’r bardd, Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904–1971.