Hywel Teifi Edwards

Hywel Teifi Edwards

Ganed Hywel Teifi Edwards yn Llanddewi Aber-arth, Ceredigion. Bu'n Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Abertawe, ac yn awdur nifer o lyfrau ar ddiwylliant Cymru oes Victoria. Ef a olygodd ddeg cyfrol Cyfres y Cymoedd ac fe gyhoeddodd astudiaeth o ddelwedd y pentref yn llenyddiaeth y Cymry yn 2004, sef y gyfrol O'r Pentre Gwyn i Gwmderi. Ei lyfr olaf oedd The National Pageant of Wales, yn sôn am y pasiant cenedlaethol rhyfeddol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn 1909. Bu farw yn 2010.

Books from this author