Cefndir Gomer

Cwmni cyhoeddi ac argraffu yw Gwasg Gomer, wedi'i leoli yn Llandysul, Ceredigion. Sefydlwyd y cwmni yn 1892 ac mae'n dal i fod yn eiddo i'r un teulu hyd heddiw. Jonathan Lewis, gor-ŵyr y sylfaenydd, yw'r rheolwr gyfarwyddwr erbyn hyn. Gwasg Gomer yw tŷ cyhoeddi mwyaf Cymru ac mae'n argraffdy llewyrchus a phrysur hefyd.

Rydym yn cyhoeddi dros 120 o deitlau newydd bob blwyddyn gyda chysylltiad Cymreig arbennig. Mae pedair rhestr gyhoeddi benodol:

Llyfrau Cymraeg i blant

Arbenigedd Gomer yw cyhoeddi llyfrau deniadol i blant o bob oed, o lyfrau bwrdd Sali Mali a Smot i nofelau grymus i'r arddegau. Ceir sawl cyfres benodol, megis Helpwch eich Plentyn / Help Your Child, Tudur Budr, Cyfres Swigod, Cyfres Strach a Hanes Atgas.

Llyfrau Cymraeg i oedolion

Braint Gwasg Gomer yw cyhoeddi gwaith nifer fawr o lenorion amlycaf Cymru, yn awduron cyfoes ac enwau mawr y gorffennol. O blith y rhestr hon y mae Islwyn Ffowc Elis, T. Rowland Hughes, Gwenallt, Hywel Teifi Edwards, Eigra Lewis Roberts, Alun Jones, Angharad Price, Manon Rhys ac Owen Martell.. Mae gennym ddwy gyfres ddwyieithog boblogaidd iawn hefyd, sef Trosiadau/Translations a Cip ar Gymru/Wonder Wales.

Llyfrau Saesneg i oedolion

Nodwedd llyfrau Saesneg Gomer yw eu dimensiwn Cymreig yn ogystal â’u parodrwydd i fynd i’r afael â’r byd yn grwn. Mae ein rhestr eang yn cynnwys hanes, cofiannau, llyfrau taith, celfyddydau gweledol, ffuglen a theitlau barddoniaeth yn ogystal â chyhoeddiadau trawiadol sy’n cyfuno llenyddiaeth a ffotograffiaeth tirlun o’r ansawdd gorau. Gwelir ein gwerthoedd cynhyrchu diguro ar waith yn ein llyfrau chwaraeon hefyd, fel y dengys yr amrywiaeth o lyfrau rygbi poblogaidd tu hwnt sydd gennym. O blith y rhestr hon ceir awduron megis Trevor Fishlock, Jim Perrin, Jon Gower, Gillian Clarke, Nigel Jenkins, Mererid Hopwood, Matthew Rhys ac Eddie Butler.

Llyfrau Saesneg i blant (Gwasgnod Pont Books)

Gwasgnod wedi’i chynllunio i ddarparu teitlau Saesneg i ddarllenwyr rhwng 3 a 15 oed yw Pont Books – o lyfrau stori-a-llun i nofelau, barddoniaeth a dramâu. Mae’r logo yn cyfleu ein nod i bontio rhwng pobl ifanc Cymru; pa bynnag gefndir sydd ganddynt, ble bynnag maent yn byw a pha bynnag ieithoedd maent yn eu siarad. Mae’r llyfrau yn Saesneg ond mae ganddynt i gyd gysylltiad neu gefndir Cymreig cryf. Enillodd Pont sawl gwobr a chanmoliaeth hael gan adolygwyr y Times Educational Supplement, Books for Keeps ynghyd â Gwales. Mae rhestr Pont yn darparu adnoddau gwerthfawr ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig, a addysgir ym mhob ysgol yng Nghymru.

************

RHAI CANLLAWIAU SYLFAENOL I AWDURON

  • *Defnyddiwch Microsoft Word a chofiwch osod Cymraeg fel iaith y ddogfen. Defnyddiwch y ffont Times New Roman. (Bydd dylunydd y wasg yn dewis ffont a diwyg terfynol y llyfr.)
  • *Bydd y wasg yn disgwyl gwaith heb gamgymeriadau ‘teipio’. Dylid defnyddio gwirydd sillafu fel canllaw cychwynnol.
  • *Mae angen gofod o 1.5 rhwng llinellau.
  • *Peidiwch â chanoli’r gwaith ar dudalen – unionwch ar yr ochr chwith
  • *Defnyddiwch TAB i fewnosod, nid yr allwedd creu bwlch ar waelod eich bysellfwrdd. Nid oes angen bwlch rhwng paragraffau (fel sydd mewn dogfen megis adroddiad), dim ond paragraff newydd wedi ei fewnosod.
  • *Rhifwch y tudalennau (er mwyn gallu trafod y deipysgrif gyda’r golygydd yn hwylus), gan ddefnyddio’r ddyfais yn Word i wneud hynny. Peidiwch â rhifo’r tudalennau â llaw.
  • *Dylid sicrhau nad oes bylchau dwbl yn unman yn y testun.
  • *Cyfrifoldeb yr awdur yw rhoi acenion, e.e. toeon bach, yn y mannau priodol. Os na fyddwch yn siŵr sut i wneud hyn ar eich cyfrifiadur, holwch y wasg am ganllawiau.
  • *Cofiwch mai sillgoll cyrliog yn wynebu tuag yn ôl (NID arwydd syth, sef ') sydd ei angen wrth dalfyrru e.e. y ferch ’ma; Mae hi ’di mynd. (Pwyswch Control a chlicio dyfynnod sengl ddwywaith a bydd y sillgoll yn gywir.)
  • *Dylid defnyddio dyfynodau sengl fel arfer ar gyfer deialog a dyfyniadau (gan gadw dyfynodau dwbl ar gyfer dyfyniad o fewn dyfyniad).
  • *Dylid rhoi teitlau llyfrau, cylchgronau, cyfnodolion, dramâu a phapurau newydd mewn llythrennau italig. Does dim angen italeiddio brandiau megis Hoover nac enwau sefydliadau.
  • *Wrth ddyfynnu dylid defnyddio tri dot i ddangos bod gair neu eiriau wedi’u hepgor, a rhoi bwlch bob ochr i’r tri dot.
  • *Os byddwch am drafod unrhyw un o’r canllawiau, cysylltwch â’r golygydd ar bob cyfri