CYNIGION ARBENNIG
LLYFRAU OEDOLION
LLYFRAU PLANT
|
 |
LLYFRAU OEDOLION : FFUGLEN I OEDOLION
YR ANWELEDIG
gan
Llion Iwan
Iaith: : Cymraeg
| |
Yng nghysgod mynyddoedd yr Hindu Kush mae teulu'r bugail ifanc Hani yn ofni bod storm ar gyrraedd. Draw yn anialwch Saudi Arabia mae Jon, peilot Americanaidd, yn dioddef hunllefau yn sgil y cyrchoedd bomio. Mae llwybrau'r ddau ar fin croesi, gan chwalu dau fyd am byth.
Oes gobaith i Hani wrth iddo gael ei annog i fynd yn hunan-fomiwr? A fydd cydwybod peilot yr Awyrlu'n ei achub - ynteu'n ei ddinistrio? A beth am dynged teulu Hani yn y dref ger y tro yn yr afon?
Dyma nofel afaelgar a grymus am fywydau'r bobl gyffredin sy'n cael eu chwalu gan ryfel - y rhai anweledig.
"Nofel afaelgar, amrywiol ei thymer sy’n cynnwys disgrifiadau dirdynnol a graffig o ryfel am yn ail â darluniau tyner a dynol o’r trueiniaid a ddaliwyd yn ei ganol. Mae arni ôl ymchwil anymwthgar ac adnabyddiaeth sicr o’r arferion nomadaidd a’r dulliau milwrol a ddisgrifir. Dyma waith creadigol sy’n gwneud i’r Gymraeg edrych i fyw llygad y byd sydd ohoni – byd Bin Laden yn y dwyrain a Bush yn y gorllewin, byd Hani’r hunanfomiwr yn Dubai a Jon y milwr yn Washington – drannoeth 9/11 ac yn nyddiau’r ‘Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth’. Mewn gair, dyma ychwanegiad cyfoes a phwerus at genre llenyddiaeth rhyfel yn y Gymraeg.
Yr Athro Gerwyn Williams
"Dyma awdur profiadol, sy’n deall adeiladwaith a strwythur nofel i’r dim…. Dechreua’r stori â phennod sy’n cydio sylw’r darllenydd ar unwaith, gyda Hani’n cerdded trwy strydoedd Dubai a bom yn wregys iddo. O dipyn i beth yn ystod y gyfrol, down i ddeall beth sydd wedi dod ag ef i’r sefyllfa hon a beth sydd wedi achosi i Jon grwydro’n feddw mewn dinas ddieithr yn America. Y stori sy’n gyrru’r gyfrol; mae’r ysgrifennu’n syml a chlir, ac mae’r symylrwydd yn mynegi cyffro’r naratif. Rwy’n siŵr y bydd hon yn gyfrol boblogaidd iawn."
Catrin Beard
"Ni allaf feddwl am yr un nofel sylweddol Gymraeg a leolwyd dramor lle nad yw’r awdur wedi teimlo’r angen i roi iddi ryw ddolen gyswllt Gymreig – naill ai trwy ei chyfeiriadaeth neu o leiaf un o’i chymeriadau. Gwnaeth Llion Iwan rywbeth prin, osn nad unigryw. Cymerodd gynfas rhyngwladol cyfoes a defnyddiodd y Gymraeg i adrodd ei stori heb deimlo’r angen i’w gyfiawnhau ei hun yn y modd hwn o gwbl. Mae’n awdur eofn ac uchelgeisiol a chreodd stori grefftus, epig ei rhychwant.
Mae’r cyfan yn darllen fel crynodeb o ryw ffilm ryngwladol arfaethedig ag iddi gyllideb enfawr. Naill ai trwy brofiad neu o ganlyniad i ymchwil fanwl, gall yr awdur ymdrin â gweithdrefnau ac offer milwrol yr UD gyda chryn argyhoeddiad. Mae hefyd yn dallt y dalltings i’r dim parthed gwleidyddiaeth gweinyddiaeth Bush. Ar ben hynny, mae’n ymddangos iddo’i drwytho’i hun yn hanes ac arferion y gwahanol lwythau a phobloedd sy’n byw yn nhiroedd mynyddig anghysbell y rhan honno o’r byd.
Yr hyn a gododd y nofel hon uwchlaw’r cyffredin i mi oedd ei hyder a’i chyfoesedd. Dyma awdur nad yw’n hiraethu am yr un ‘ddoe na ddaw yn ôl’ nac yn teimlo’r angen i wisgo’i weldigaeth â’r un ffantasi ffuantus. Iddo ef yr âi’r Fedal Ryddiaith eleni pe cawn i fy ffordd."
Aled Islwyn.
|
|
 |




LLYFR Y MIS
|
ANCESTRAL HOUSES: THE LOST MANSIONS OF WALES / TAI MAWR A MIERI: PLASTAI COLL CYMRU
gan
Damian Walford Davies, Siân Melangell Dafydd
a
Paul White
Llyfr trawiadol am rai o hen blastai Cymru.
Mwy o wybodaeth...
|
LLYFRAU NEWYDD GOMER
 |
TYNGED YR IAITH
gan
Saunders Lewis
Argraffiad newydd o'r ddarlith drydanol, ynghyd â rhagymadrodd gan Ned Thomas.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
1000 GAIR CYNTAF SALI MALI
gan
Haf Llewelyn
Llyfrau geiriau lliwgar a chyffrous ar gyfer holl ffrindiau bach Sali Mali!
Mwy o wybodaeth...
|
 |
DIWRNOD PRYSUR POPI'R GATH
gan
Lara Jones
Llyfr yn cynnwys llabedi i'w tynnu a'u symud.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
Y GÊMAU OLYMPAIDD A CHAMPAU'R CYMRY
gan
Alun Wyn Bevan
Cyfrol arbennig i ddathlu ymweliad y Gêmau Olympaidd â Llundain yn 2012.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
HELPWCH EICH PLENTYN / HELP YOUR CHILD: IDIOMAU / IDIOMS
gan
Elin Meek
Llyfr hwyliog sydd wedi'i greu gan arbenigwyr i ddatblygu llythrennedd a sgiliau iaith eich plentyn. Ar gyfer plant 10+ oed.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
TIPYN O'N HANES: TERFYSGOEDD CYMRU
gan
Bob Morris
Y trydydd llyfr mewn cyfres newydd o lyfrau cryno i'n hatgoffa o'n hanes ni ein hunain.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
WHAP! TEBYG AT EI DEBYG?
gan
Delyth George
Nofel seicolegol wedi ei hadrodd yn bennaf drwy lygaid ifanc.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
SWIGOD: Y RALI FAWR
gan
Anwen Francis
Anrheg pen-blwydd 12 oed Henri yw cael bod yn llywiwr mewn rali am y tro cyntaf erioed...
Mwy o wybodaeth...
|
 |
SWIGOD: GELERT YN GALW
gan
Helen Emanuel Davies
Rhaid i Twm stopio'r lladron cyn i rai o drysorau harddaf Cymru ddiflannu am byth!
Mwy o wybodaeth...
|
 |
TRYSORFA ARWYR CYMRU
gan
Tudur Dylan Jones
Cyfrol anrheg drawiadol i blant a theuluoedd Cymru.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
ANCESTRAL HOUSES: THE LOST MANSIONS OF WALES / TAI MAWR A MIERI: PLASTAI COLL CYMRU
gan
Damian Walford Davies, Siân Melangell Dafydd
a
Paul White
Llyfr trawiadol am rai o hen blastai Cymru.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
CERBYD CYDWYBOD
gan
Geraint Jarman
Trydedd cyfrol o farddoniaeth y bardd a'r cyfansoddwr dawnus.
Mwy o wybodaeth...
|
 |
PARLWR BACH
gan
Eigra Lewis Roberts
Cyfrol o farddoniaeth gan Eigra Lewis Roberts.
Mwy o wybodaeth...
|
CYNIGION ARBENNIG
BAG YSGOL
PRIS ARFEROL: £3.99 (5,63 €/$5.99)
PRIS ARBENNIG: £1.99 (2,81 €/$2.99)
BAG TWˆLS
PRIS ARFEROL: £3.99 (5,63 €/$5.99)
PRIS ARBENNIG: £1.99 (2,81 €/$2.99)
CYFRES BYD LLIWGAR MABON A MABLI: MYMRYN O DRIC! gan
Meinir Pierce Jones
PRIS ARFEROL: £4.99 (7,04 €/$7.49)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRES BYD LLIWGAR MABON A MABLI: TAID AR BINNAU gan
Meinir Pierce Jones
PRIS ARFEROL: £4.99 (7,04 €/$7.49)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRES BYD LLIWGAR MABON A MABLI: DRUAN O M... gan
Brenda Wyn Jones
PRIS ARFEROL: £4.99 (7,04 €/$7.49)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRES BYD LLIWGAR MABON A MABLI:BLE MAE PAWB? gan
Rhiannon Rowlands
PRIS ARFEROL: £4.99 (7,04 €/$7.49)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRIFIADUR NEWYDD WINI gan
Valerie Thomas
PRIS ARFEROL: £4.99 (7,04 €/$7.49)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRES LLYFFANTOD: DAWNSIA, DILWYN LINDYSYN gan
Jenny Sullivan
PRIS ARFEROL: £4.95 (6,98 €/$7.43)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRES LLYFFANTOD: WENDI WLANOG A LILI'R WYDDFA - CAM CYNTAF gan
Siân Lewis
PRIS ARFEROL: £4.95 (6,98 €/$7.43)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
CYFRES CORRYN: PWTYN AR GOLL gan
Alys Jones
PRIS ARFEROL: £3.95 (5,57 €/$5.93)
PRIS ARBENNIG: £1.50 (2,12 €/$2.25)
STRAEON DOT COM
PRIS ARFEROL: £3.95 (5,57 €/$5.93)
PRIS ARBENNIG: £1.50 (2,12 €/$2.25)
CYFRES GWAED OER: OUIJA! gan
Eirlys Gruffydd
PRIS ARFEROL: £3.95 (5,57 €/$5.93)
PRIS ARBENNIG: £1.50 (2,12 €/$2.25)
SAETH: ADENYDD gan
James Lovegrove
PRIS ARFEROL: £3.99 (5,63 €/$5.99)
PRIS ARBENNIG: £1.99 (2,81 €/$2.99)
SAETH: GRYM Y GARREG gan
Catherine MacPhail
PRIS ARFEROL: £3.99 (5,63 €/$5.99)
PRIS ARBENNIG: £1.99 (2,81 €/$2.99)
FFWˆL YN Y DWˆR
PRIS ARFEROL: £5.50 (7,76 €/$8.25)
PRIS ARBENNIG: £2.50 (3,53 €/$3.75)
DAFYDD IWAN: BYWYD MEWN LLUNIAU / A LIFE IN PICTURES
PRIS ARFEROL: £8.99 (12,68 €/$13.49)
PRIS ARBENNIG: £4.00 (5,64 €/$6.00)
I FYD SY WELL gan
Siân Eirian Rees Davies
PRIS ARFEROL: £7.99 (11,27 €/$11.99)
PRIS ARBENNIG: £3.00 (4,23 €/$4.50)
RHYFEDD O FYD gan
Gruff Roberts
PRIS ARFEROL: £6.99 (9,86 €/$10.49)
PRIS ARBENNIG: £3.00 (4,23 €/$4.50)
WINI'R WRACH gan
Valerie Thomas
PRIS ARFEROL: £4.99 (7,04 €/$7.49)
PRIS ARBENNIG: £2.00 (2,82 €/$3.00)
PECYN LLYFRAU TWT
PRIS ARFEROL: £8.99 (12,68 €/$13.49)
PRIS ARBENNIG: £5.00 (7,05 €/$7.50)
|
|