Y Ddrama Gyfoes: Damcaniaethau Ac Arferion - Mynegiadaeth A'r Theatr Epig

Y DDRAMA GYFOES: DAMCANIAETHAU AC ARFERION - MYNEGIADAETH A'R THEATR EPIG

Iaith: Cymraeg

Addaswyd gan: Annes Glynn

ISBN: 9781843237716

Dyddiad Cyhoeddi: 2007

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 272

Teitl ar gael ar ffurf:

Pris Arferol: £14.99

Cynnig Arbennig: £5.00

  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Dyma addasiad Cymraeg Annes Glynn o drydedd gyfrol cyfres bwysig J. L. Styan am y ddrama fodern. Yn y gyfrol hon, dangosir Büchner fel rhagflaenydd mynegiadaeth, a Wedekind a Strindberg yn olynwyr iddo. Olrheinir yr arddull hon wedyn gan gychwyn gyda Kaiser a Toller hyd at O'Neill, Wilder a'r O'Casey diweddar. Cynhyrchwyr pwysig yw Reinhardt a Meyerhold. Astudir y theatr epig o Piscator a Brecht i Dürrenmatt a Weiss, Arden a Bond a gwelir y modd y mae'n llewyrchu mewn datblygiadau yn y theatr ddogfennol ddiweddar.

'Dyma gyfieithiad ardderchog. Mae'r cyfan yn darllen yn rhwydd ac yn llwyddo i gadw'n agos iawn at y gwreiddiol. Bydd yn gaffaeliad i ddisgyblion mewn Adrannau Drama sy'n astudio Lefel A ac i fyfyrwyr y colegau a'r prifysgolion.' Carys Edwards