Siani Am Byth

SIANI AM BYTH

Iaith: Cymraeg

Arlunydd: Pamela Cartwright

ISBN: 9781848510449

Dyddiad Cyhoeddi: 2009

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 136

Teitl ar gael ar ffurf:

Pris Arferol: £4.99

Cynnig Arbennig: £2.00

  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Mae hi wedi bod yn un helynt ar ôl y llall ar Fferm Parc yr Ebol dros yr haf eleni. Stormydd mellt a tharanau, llifogydd, diflaniad Aneirin yr asyn, anaf i Beca heb sôn am y lladron! Mae pawb mewn tipyn o stad! Ond o leiaf daw Sioe Aberteifi ac ymweliad â Bridfa Geffylau Derwen i godi tipyn ar hwyliau pawb. A hyd yn oed ynghanol yr holl helynt mae un peth yn sicr, does dim all rwystro Siani'r Shetland!

Dyma'r llyfr olaf yng nghyfres anturiaethau Siani'r Shetland.

"Mae Siani am Byth yn carlamu'n ddi-stop o'r storom ofnadwy ar y dechre hyd at y gacen siocled ola. Ges i'r union run pleser o ddarllen y stori ag 'ron i'n cael bob pnawn dydd Gwener yn ysgol Lonlas wrth wrando ar ein athro, Mr Phillips, yn darllen straeon am ddynion drwg, smyglars a lladron pen ffordd."
Dewi Pws Morris