Ôl-ryfel I Ôl-fodern: Bywgraffiadur Artistiaid Cymru

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781848519442

Dyddiad Cyhoeddi: 2015

Ffurf: Clawr Caled

Teitl ar gael ar ffurf:

£45.00
  1. Manylion y llyfr
  2. Cyfieithiad
  3. Cipolwg Cyflym
  4. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Mae Ôl-Ryfel i Ôl-Fodern: Bywgraffiadur Artistiaid Cymru yn gyfeirlyfr academaidd o bwys sy'n rhychwantu cyfnod cyfoethog yn hanes y celfyddydau yng Nghymru. Dyma'r arolwg darluniedig cyntaf, mewn argraffiadau Cymraeg a Saesneg, o yrfaoedd artistiaid ac artistiaid cymhwysol yng Nghymru dros y trigain mlynedd diwethaf.

Gydag ysgrif ysgolheigaidd sy'n cyflwyno mudiadau a sefydliadau yng Nghymru er 1945, ynghyd â bywgraffiadau cryno ac awdurdodol o'r artistiaid hynny sy'n gweithio drwy gyfryngau traddodiadol a newydd, mae Ôl-Ryfel i Ôl-Fodern: Bywgraffiadur Artistiaid Cymru yn portreadu creadigrwydd y wlad ym meysydd celfyddyd gain a chelf gymhwysol, gan amlygu hefyd ei phresenoldeb rhyngwladol.