Dafydd Iwan: Bywyd Mewn Lluniau / A Life In Pictures

Iaith: bilingual/dwyieithog

ISBN: 9781843234883

Dyddiad Cyhoeddi: 2005

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 86

Teitl ar gael ar ffurf:

Pris Arferol: £8.99

Cynnig Arbennig: £3.00

  1. Manylion y llyfr
  2. Cyfieithiad
  3. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Dafydd Iwan: un dyn, cymaint o ffyrdd o’i nabod – canwr ysbrydoledig; chwyldroadwr penboeth; dyn busnes blaengar; gwleidydd cyfrifol; mab y Mans; brawd a gŵr a thad. Yn y gyfrol bersonol a dadlennol hon, cawn gipolwg ar bob agwedd ar fywyd a hanes un o wir eiconau Cymru heddiw, ac un sydd wedi rhoi cymaint i’w wlad a’i diwylliant.

Dyma gasgliad unigryw sy’n gyfuniad o luniau o albwm personol y teulu a gwaith rhai o ffotograffwyr dogfennol gorau Cymru’r ugeinfed ganrif, gan gynnwys Geoff Charles, Marian Delyth, Raymond Edwards a Gerallt Llewelyn. Mae yma luniau du a gwyn o’r 1960au ochr yn ochr â lluniau lliw cyfoes; rhai lluniau sy’n gofnodion o ddigwyddiadau mawr hanes diweddar ein gwlad, a rhai lluniau o Dafydd gyda’i deulu ar achlysuron anffurfiol a phersonol.