Cardiau Cywain Gwybodaeth Gomer

CARDIAU CYWAIN GWYBODAETH GOMER

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781843233305

Dyddiad Cyhoeddi: 2004

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 60

Teitl ar gael ar ffurf:

Pris Arferol: £25.00

Cynnig Arbennig: £10.00

  1. Manylion y llyfr
  2. Adnoddau i Athrawon
  3. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Pecyn o 60 o gardiau cywain gwybodaeth ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, ynghyd â llyfr athrawon gydag arweiniad a llu o syniadau dysgu.

Trafodir 15 o bynciau (gyda 4 carden ar bob un): Aneurin Jones, Hans Christian Andersen, Kyffin Williams, melinau gwynt, warden y Parc, y Gemau Olympaidd, Terfysg Beca, Aberfan, llechi, y Sioe Fawr, yr Eisteddfod, trosedd a chosb, y barcud coch, cantor o fri a'r Celtiaid.

Mae'r deunydd yn gweddu i'r cwricwlwm Gwyddoniaeth, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Hanes, Daearyddiaeth a Chelf.

Dyma gronfa barod o ffeithiau, ffotograffau, lluniau, deiagramau a mapiau wedi'u cyflwyno mewn arddull bwrpasol.

Adnodd dysgu hylaw - cardiau A4 wedi'u lamineiddio mewn bocs plastig. Gellir ysgrifennu ar y cardiau, yna eu sychu'n lân ar gyfer y tro nesaf.