Lois Arnold
Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2004.
Ganed Lois Arnold yn Walton-on-Thames yn Surrey, ond mae'n byw bellach yn y Fenni. Ar ôl symud i fyw yng Nghymru, roedd Lois yn awyddus iawn i ddysgu Cymraeg. Aeth i ddosbarthiadau nos yng Ngholeg Gwent yn y Fenni ac erbyn hyn mae hi'n diwtor yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.
Enillodd Lois gystadleuaeth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod a ffrwyth hynny oedd ei chyfrol gyntaf Cysgod yn y Coed.
Cyhoeddodd ei phedwaredd cyfrol, Ffenestri, yn 2015.
Gweld llyfrau'r awdur